Mae ystadegau yn dangos mai pobol groenwyn ydi bron i hanner y rheiny a gafodd eu harestio o dan amheuaeth o frawychiaeth yng ngwledydd Prydain y llynedd.
Cafodd cyfanswm 273 o unigolion eu harestio yn 2018, ac roedd mwy na dau o bob pump, 118 (neu 435) a chroen gwyn yn ôl ystadegau’r Swyddfa Gartref.
Mae hyn yn ostyngiad o bron i chwarter ar y flwyddyn gynt.
Roedd canlyniadau’r arestiadau yn rhannu fel hyn:
– 102 (37%) yn arwain at gyhuddiad, gyda 81 yn gysylltiedig â throseddau o frawychiaeth
– 99 (36%) yn cael eu rhyddhau heb gyhuddiad
– 23 (8%) yn cael eu rhyddhau ar fechnïaeth o dan archwiliad
– 17 (6%) yn wynebu gweithred amgen
– 32 (12%) yn cael eu prosesu wrth i’r data gael ei gasglu
Allan o’r 81 o bobol gafodd eu cyhuddo am drosedd yn gysylltiedig â brawychiaeth, fe gafodd 38 eu dedfrydu a’u canfod yn euog.