Mae prif weithredwr cwmni Ted Baker wedi ymddiswyddo yn dilyn honiadau o gamymddwyn.
Roedd Ray Kelvin, sylfaenydd y cwmni, wedi cael ei orfodi i adael ei swydd am gyfnod y llynedd yn dilyn honiadau ei fod wedi gorfodi diwylliant o “gofleidio” yn y cwmni.
Mae Ray Kelvin yn gwadu’r holl gyhuddiadau o gamymddwyn ond dywedodd y cwmni ddydd Llun (Mawrth 4) ei fod wedi cytuno i ymddiswyddo fel prif weithredwr a chyfarwyddwr Ted Baker.
Dywedodd cadeirydd y cwmni David Bernstein eu bod yn ddiolchgar i Ray Kelvin am ei “ynni diflino a’i weledigaeth” ond ei fod wedi penderfynu “er budd y cwmni” y byddai’n well iddo ymddiswyddo yn sgil yr honiadau.
Ychwanegodd Ray Kelvin mai camu o’r neilltu “yw’r peth iawn i’w wneud.”
Mae pwyllgor mewnol annibynnol wedi bod yn ymchwilio i’r honiadau ynghyd a chwmni cyfreithwyr Herbert Smith Freehills.
Fe fydd yr ymchwiliad yn parhau gyda’r ffocws ar bolisïau a phrosesau Ted Baker a sut mae’r cwmni yn delio gyda chwynion.
Mae Lindsay Page, y prif weithredwr dros dro, wedi cytuno i barhau yn y rôl hyd at 2020 pan fydd olynydd i Ray Kelvin yn cael ei benodi.