Mae’r ffraeo mewnol ynghylch y ffordd orau o fynd i’r afael â’r honiadau o wrth-Semitiaeth yn y Blaid Lafur wedi cynyddu.

Fe fu anghytuno ffyrnig rhwng Jennie Formby, ysgrifennydd cyffredinol y blaid, a Tom Watson, y dirprwy arweinydd, gyda’r naill yn cyhuddo’r llall o ymddygiad “hollol annerbyniol” wrth ofyn i aelodau seneddol Llafur i drosglwyddo cwynion i’r blaid am wrth-Semitiaeth yn uniongyrchol iddo fe i’w monitro.

Mae Jennie Formby yn cyhuddo Tom Watson o “danseilio” a “llygru” y drefn bresennol o ymateb i gwynion.

Ond mae Tom Watson yn benderfynol o sefyll ei dir yn sgil “colli ymddiriedaeth” yn y blaid o ganlyniad i’r modd y maen nhw’n ymdrin â chwynion, meddai.

‘Hollol amhriodol’

“Mae’n hollol amhriodol i chi sefydlu system fonitro cwynion paralel amwys,” meddai Jennie Formby mewn llythyr at Tom Watson.

Mae’n dweud ei bod yn “hollol annerbyniol” fod y dirprwy arweinydd yn cael mynediad i ddata yn ymwneud â’r cwynion.

“Mae gennych chi, fel aelod seneddol unigol, a’r blaid gyfrifoldebau llym iawn yn unol â GDPR a Deddf Diogelu Data 2018 i ddiogelu data aelodau a sicrhau y caiff ei brosesu at ddibenion cyfreithlon sydd wedi’u diffinio’n glir yn unig,” meddai.

“Ymhellach, byddwch chi’n tanseilio’r gwaith dw i a fy staff yn ei wneud, ac fe fyddwch yn drysu ac yn llygru’r broses ffurfiol bresennol, yn ei rhoi yn y fantol ac yn ei harafu.”

Mae hi’n galw ar aelodau seneddol i beidio ag anfon cwynion at Tom Watson.

Tryloywder

Ond mae Tom Watson yn dweud bod angen dulliau cyflymach a mwy tryloyw o ymdrin â chwynion.

“Y pryder parhaus ymhlith y sawl sy’n cwyno ynghylch gwrth-Semitiaeth o fewn ein plaid yw nad oes tryloywder ynghylch y broses,” meddai.

“Mae’r afloywder a’r oedi wrth brosesu cwynion wedi arwain at golli ymddiriedaeth yn llwyr.

“Yn rhy aml, dydy’r sawl sydd wedi dioddef gwrth-Semitiaeth ddim wedi clywed unrhyw beth am ganlyniad eu cwyn.

“Fy nghyfrifoldeb i fel dirprwy arweinydd y Blaid Lafur yw sicrhau bod gan bobol hyder yn ein system gwynion a’n gallu i ymdrin â thryloywder â phla gwrth-Semitiaeth.

“Byddaf yn parhau i wneud popeth allaf i er mwyn cyflawni hynny.”