Mae’n bosib na fydd Theresa May, prif weinidog Prydain, yn ceisio ail-agor trafodaethau Brexit er mwyn datrys sefyllfa ffiniau Iwerddon.
Mae Jeremy Wright, Gweinidog Diwylliant San Steffan, yn awgrymu y gallai atodiad gael ei ychwanegu at y Bil Ymadael er mwyn addasu’r ‘backstop’, gan ddweud bod yr “amcan” yn bwysicach na’r “mecanwaith”.
Daw ei sylwadau yn dilyn llythyr gan Theresa May yn sicrhau aelodau seneddol y byddai’r Llywodraeth yn parhau i frwydro i ddatrys y ffiniau.
“Dw i’n credu mai’r hyn sy’n amlwg yw fod y Senedd, a phobol ymhell y tu hwnt i’r Senedd dw i’n credu, yn gofidio am natur amhenodol ddi-ben-draw y ‘backstop – dyna’r hyn y mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth yn ei gylch e,” meddai Jeremy Wright wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.
“Os mai dyna’r unig ffordd o’i wneud e, yna dyna’r trywydd y byddwn ni’n ei ddilyn.
“Os oes yna ffyrdd gwahanol o’i wneud e sydd yr un mor effeithio nad ydyn ni wedi ymchwilio iddyn nhw eto, yna fe wnawn ni hynny hefyd.”
Cynnig Llafur
Yn y cyfamser, mae’r Blaid Lafur yn ystyried cynnig gan Peter Kyle a Phil Wilson, dau aelod o’r meinciau cefn, i gynnal ail refferendwm Brexit.
Daw’r cynnig arfaethedig wedi i Theresa May alw ar y Senedd i ddod ynghyd a rhoi buddiannau personol o’r neilltu “er lles y genedl”.
“Bydd hanes yn ein barnu ni am y rhannau rydym wedi eu chwarae yn y broses hon,” meddai mewn llythyr.
Bydd hi’n teithio i Frwsel am ragor o drafodaethau’r wythnos hon.