Mae Royal London wedi derbyn caniatâd i drosglwyddo gwerth dros £1bn mewn asedau i Weriniaeth Iwerddon fel rhan o baratoadau’r cwmni yswiriant ar gyfer Brexit.

Mae’r grŵp, sy’n gyfrifol am gyfanswm o £114bn, wedi derbyn sêl bendith gan yr Uchel Lys yng ngwledydd Prydain heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 5).

Nod y trosglwyddo yw i ddelio â chanlyniadau Brexit dim cytundeb, gyda chwmnïau yn y sector gwasanaethau ariannol yn poeni y gallan nhw golli hawliau i gynnal busnes o fewn marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r asedau fydd yn cael eu trosglwyddo i Weriniaeth Iwerddon yn ymwneud â chwsmeriaid o fewn Ewrop ei hun.

Yn ôl Royal London, hyd yn oed os yw Llywodraeth Prydain yn dod i gytundeb gyda’r Undeb , maen nhw bellach “wedi ymrwymo i drosglwyddo”.

Mae disgwyl y bydd y cam hwn gan y cwmni yn creu 20 o swyddi newydd yn Dulyn.

Mae sawl banc – gan gynnwys Barclays, Royal Bank of Scotland, Lloyd, Goldman Sachs a Morgan Stanley – bellach wedi sefydlu canolfannau yn Ewrop wrth baratoi ar gyfer Brexit.

Mae’n ymddangos mai Frankfurt yn yr Almaen sydd wedi elwa mwyaf o Brexit, hyd yn hyn.