Mae pedwar o blant wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Stafford.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 2.40yb heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 5) yn dilyn adroddiadau o dân difrifol mewn tŷ yn ardal Highfields yng nghanolbarth Lloegr.

Yn ôl yr heddlu, cafodd dau oedolyn a phlentyn arall eu cludo i’r ysbyty lle maen nhw’n derbyn triniaeth am anafiadau sydd ddim yn cael eu hystyried yn fygythiad i’w bywyd.

Does dim gwybodaeth hyd yn hyn ynglŷn â beth achosodd y tân, ond mae’r ymchwiliad yn parhau.