Fe all cyfnod o wyliau ar gyfer Aelodau Seneddol ym mis Chwefror gael ei ohirio er mwyn canolbwyntio ar Brexit.

Roedd disgwyl i Dŷ’r Cyffredin dorri am seibiant byr rhwng Chwefror 14 a Chwefror 25, ond mae Arweinydd y Tŷ, Andrea Leadsom, wedi cyhoeddi nad oes cynlluniau ar y gweill i gadarnhau’r dyddiadau hyn.

“Yn ystod y sesiwn unigryw hon o’r Senedd ac yn sgil y penderfyniadau allweddol sydd wedi cael eu gwneud gan y Tŷ yr wythnos hon, dw i’n hysbysu’r Tŷ nad oes cynlluniau ar hyn o bryd i gyflwyno cynnig er mwyn cadarnhau’r dyddiadau ar gyfer gwyliau mis Chwefror,” meddai Andrea Leadsom.

“Mae’n bosib y gallai’r Tŷ wedyn barhau i eistedd a gwneud datblygiadau yn y busnes allweddol sydd gerbron y siambr.

“Dw i’n deall fod hyn ychydig ar fyr rybudd i gyd-aelodau a staff y Tŷ, ond dw i’n meddwl bod ein hetholwyr yn disgwyl bod y Tŷ yn medru parhau i weithio yn ystod y cyfnod pwysig hwn.”