Fe fydd Theresa May yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder “yn fuan”, meddai Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur.

Mae prif weinidog Prydain yn ceisio annog aelodau seneddol i gefnogi ei chynllun Brexit ar drothwy pleidlais yn  San Steffan ddydd Mawrth.

Mae hi eisoes wedi rhybuddio mai aros yn yr Undeb Ewropeaidd fyddai canlyniad gwrthod y cynllun, ac y byddai bradychu canlyniad refferendwm 2016 yn “gatastroffig ac anfaddeuol”.

‘Gweld beth sy’n digwydd’

Mae Jeremy Corbyn yn dweud y dylai pobol “weld beth sy’n digwydd” ddydd Mawrth, ond y byddai’r blaid yn cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder “ar adeg o’n dewis ni”.

“Byddwn yn cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn y Llywodraeth ar adeg o’n dewis ni, ond fe fydd yn fuan, peidiwch â phoeni,” meddai wrth raglen Andrew Marr y BBC.

Disgwyl cefnogaeth

Er gwaethaf sylwadau Jeremy Corbyn, mae Steve Barclay, yr Ysgrifennydd Brexit, yn dweud ei fod yn disgwyl i aelodau seneddol gefnogi cynllun Theresa May.

A hyd yn oed pe bai hwnnw’n methu, meddai, mae’n disgwyl iddyn nhw gefnogi cytundeb “ar hyd yr un llinellau”.

Daw ei sylwadau wrth iddo rybuddio y gallai aelodau’r meinciau cefn darfu ar y cynllun drwy ddefnyddio’u grym i sicrhau bod materion eraill yn cael eu blaenoriaethu ar draul Brexit.

Dywed fod risg “cynyddol” erbyn hyn y gallai’r senedd weithredu’n groes i ddymuniadau’r llywodraeth, rhywbeth sy’n cael ei ategu gan Syr Vince Cable, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.