Mae Theresa May yn rhybuddio y byddai aelodau seneddol yn achosi “brad catastroffig ac anfaddeuol” yn erbyn democratiaeth o wrthod ei chytundeb Brexit, a bod hynny’n arwain at aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd aelodau seneddol yn pleidleisio ar gytundeb arfaethedig prif weinidog Prydain ddydd Mawrth, ac mae hi’n eu hannog i “wneud yr hyn sydd yn iawn i’n gwlad”.
Mae hi hefyd yn rhybuddio y gallai Prydain orfod aros yn yr Undeb Ewropeaidd pe bai aelodau seneddol yn “anfodlon” wynebu’r ansicrwydd.
Hwn, meddai yn y Sunday Express, yw’r “penderfyniad pwysicaf a fu gan unrhyw aelod seneddol yn ein cenhedlaeth ni”.
‘Ein tro ni’
“Fe wnaethoch chi, bobol Prydain, bleidleisio i adael,” meddai yn yr erthygl.
“Ac yna, yn etholiad cyffredinol 2017, pleidleisiodd 80% ohonoch chi dros aelodau seneddol a safodd ar sail maniffesto i barchu canlyniad y refferendwm hwnnw.
“Rydych chi wedi cyflwyno’ch cyfarwyddiadau. Ein tro ni yw hi i gyflawni drosoch chi.
“Pan aethoch chi allan i bleidleisio yn y refferendwm, fe wnaethoch chi hynny oherwydd roeddech chi am i’ch llais gael ei glywed.
“Fe wnaeth rhai ohonoch chi ymddiried yn y broses wleidyddol am y tro cyntaf ers degawdau.
“Allwn ni ddim – rhaid i ni beidio – eich siomi.
“Byddai gwneud hynny’n frad catastroffig ac anfaddeuol o’n democratiaeth.
“Felly mae fy neges i’r Senedd y penwythnos hwn yn syml: mae’n bryd anghofio’r gemau a gwneud yr hyn sy’n iawn i’n gwlad.”
Cynllwyn
Daw sylwadau Theresa May wrth i Downing Street fynegi “pryder difrifol” am gynllwyn y meinciau cefn i sicrhau bod rheolau’n galluogi cynigion y meinciau cefn gael blaenoriaeth dros fusnes y Llywodraeth pe bai cynllun Theresa May yn cael ei wrthod.
Cyn hyn, roedd lle i gredu mai gweinidogion yn unig allai roi stop ar adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.