Mae’r SNP yn galw ar Lywodraeth Prydain i roi’r gorau i benodi “ffrindiau” yn Arglwyddi.
Daw sylwadau’r blaid ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod 22 o Arglwyddi wedi’u penodi gan y llywodraeth eleni, ar gost o £83,000 y pen.
Dywed Tommy Sheppard, llefarydd y blaid, fod y penodiadau gan un llywodraeth ar ôl y llall yn “anfaddeuol”.
Ond mae Tŷ’r Arglwyddi’n dadlau bod gostyngiad yn y nifer yn ystod y flwyddyn hon, a bod y swm o £83,000 y pen yn “gamarweiniol” gan ei fod yn rhannu’r cyfanswm yn hafal rhwng nifer yr aelodau yn hytrach nag adlewyrchu’r gwir gost y pen i’r trethdalwyr.
O blith y 22 o Arglwyddi newydd, mae naw ohonyn nhw’n Geidwadwyr, chwech yn annibynnol neu’n dod o blaid leiafrifol, tri o’r Blaid Lafur ac un o’r DUP. Dydy’r SNP ddim yn eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi.
‘Stwffio aelodau i’r Tŷ’
“Mae’r syniad o gorff deddfwriaethol heb ei ethol yn yr unfed ganrif ar hugain yn ddigon chwerthinllyd, ond mae’n anfaddeuol fod un llywodraeth ar ôl y llall yn pentyrru siambr yr Arglwyddi’n llawn o benodiadau gwleidyddol cyfeillgar yn anfaddeuol,” meddai Tommy Sheppard.
“Mae’r ddadl i anfon y siambr hynafol ac annemocrataidd o rai sydd wedi gweld dyddiau gwell i fin sbwriel hanes yn un hir-ddisgwyliedig.
“Y llynedd, dangosodd ffigurau fod pob Arglwydd yn costio £83,000 i’r trethdalwyr bob blwyddyn ac ers hynny, cafodd dim llai na 22 o Arglwyddi eu stwffio i mewn i’r Tŷ.”
Ymateb yr Arglwyddi
Dydy’r ffigurau ddim yn adlewyrchu’r sefyllfa go iawn, yn ôl Tŷ’r Arglwyddi, sy’n dweud bod 32 o Arglwyddi wedi gadael y sefydliad yn ystod y cyfnod dan sylw.
Nod y sefydliad yw sicrhau dim mwy na 600 o Arglwyddi.
“Mae’r gost y pen ar gyfer pob Arglwydd a gafodd ei nodi gan Mr Sheppard yn gamarweiniol, gan ei bod wedi’i chyfrifo drwy rannu holl gyllideb Tŷ’r Arglwyddi, sy’n cynnwys costau sefydlog megis diogelwch, isadeiledd technoleg gwybodaeth a chynnal a chadw’r adeilad, gyda nifer yr aelodau.
“Dydy’r cyfrifo hwn ddim yn adlewyrchu cost aelodau unigol y Tŷ.”