Mae’r Blaid Lafur yn galw am ymchwiliad i’r helynt dronau ym maes awyr Gatwick, gan gyhuddo Llywodraeth Prydain o fethu ag ymateb i’r peryglon.
Mae Andy McDonald, llefarydd trafnidiaeth y blaid, yn dweud bod y Ceidwadwyr wedi methu cyfleoedd i atal yr ymosodiadau.
Fe ddaeth i’r amlwg ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 22) fod Chris Grayling, Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, wedi rhoi cynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth o’r neilltu er mwyn canolbwyntio ar Brexit.
Mae llefarydd wedi wfftio’r honiadau fel “nonsens”.
Mae dyn a dynes yn cael eu holi yn y ddalfa ar ôl i oddeutu 140,000 o deithwyr wynebu oedi a chanslo teithiau yn sgil y digwyddiad yr wythnos ddiwethaf.
‘Rhybuddio dro ar ôl tro’
“Cafodd y Llywodraeth ei rhybuddio dro ar ôl tro am beryglon y dronau i awyrennau ond fe fethodd â gweithredu,” meddai Andy McDonald.
“Mae’r oedi wrth gyflwyno deddfwriaeth yn nodweddiadol o fethiant y Llywodraeth hon i ganolbwyntio ar y busnes o ddydd i ddydd sydd ger eu bron.
“Maen nhw wedi tynnu eu llygaid oddi ar y bêl.
“Mae graddfa’r anghyfleustra’n annerbyniol, ac mae’n mynnu ein bod yn darganfod sut gafodd hyn ddigwydd, a dyna pam fod Llafur yn galw am ymchwiliad annibynnol.”