Amber Rudd, Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau San Steffan, yw’r aelod Cabinet cyntaf i gefnogi “cynllun B” Brexit yn gyhoeddus.

Mae’n dweud yn The Times y byddai hi’n ffafrio cynllun tebyg i’r hyn sydd gan Norwy pe bai Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn colli’r bleidlais yn San Steffan ddydd Mawrth (Rhagfyr 11).

“Ond does neb yn gwybod a oes modd gwneud hynny,” meddai.

Ac mae hi hefyd yn gwrthod wfftio’r posibilrwydd o gynnal ail refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd, gan ddweud y byddai hi’n ffafrio aros yn yr Undeb Ewropeaidd pe bai hynny’n digwydd.

Mae aelodau seneddol wrthi ar hyn o bryd yn ceisio cefnogaeth i’r cynllun er mwyn sicrhau bod cytundeb yn ei le ar gyfer Brexit.

Dyfodol Theresa May yn y fantol

Mae Theresa May wedi’i rhybuddio y gallai hi orfod camu o’r neilltu pe bai hi’n colli’r bleidlais ddydd Mawrth.

Byddai aros yn ei swydd o dan y fath amgylchiadau’n “drychineb”, meddai cyn-arweinydd y blaid, Iain Duncan Smith.

“Mae sut mae’r Prif Weinidog yn ymateb ar ôl y bleidlais yn cyfrif am fwy nag unrhyw beth arall mae’r prif weinidog wedi’i wneud,” meddai wrth y Daily Telegraph.

Cynlluniau Jeremy Corbyn

Byddai Jeremy Corbyn yn ystyried gohirio Brexit pe bai’r blaid Lafur yn dod i rym, meddai wrth Sky News.

“Pe bawn ni’n mynd i lywodraeth yn syth, byddem yn dechrau trafod yn syth. Pe bai’n golygu oedi fymryn hirach i’w wneud e, wrth gwrs [y bydden ni’n ei wneud e].”

Dywedodd y byddai’n fodlon ystyried ffurfio llywodraeth leiafrifol er mwyn sicrhau bod y trafodaethau’n digwydd.

Y bleidlais

Wrth i Theresa May baratoi ar gyfer y bleidlais ddydd Mawrth, mae hi’n wynebu’r perygl o orfod cwblhau Brexit heb gytundeb.

Mae hi dan bwysau i ohirio’r bleidlais er mwyn ceisio gwasgu Brwsel am ragor o gyfaddawd. Mae 29 o aelodau seneddol Ceidwadol yn dweud y byddan nhw’n pleidleisio yn erbyn y cytundeb presennol.

Ac mae’r DUP, y blaid Wyddelig sy’n cefnogi’r llywodraeth Geidwadol, hefyd yn bygwth tynnu allan o’r cytundeb i gefnogi polisïau’r llywodraeth pe bai hi’n colli’r bleidlais.