Mae angen i wleidyddion gyflwyno mesurau i warchod gweithwyr siop, yn ôl cymdeithas sy’n cynrychioli’r sector.
Fe ddaw y cyhoeddiad o ganlyniad i bryder sy’n cael ei leisio yn Adroddiad Trosedd y gymdeithas eleni, ac sy’n dweud yn glir mai pryder mwyaf pobol sy’n gweithio ar y tils neu ar lawr siop yw trais yn eu herbyn.
Mae dros 13,000 o ddigwyddiadau treisgar yn erbyn siopau a staff wedi’u cofnodi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda thros draean o’r rheiny yn achosi anaf.
Mae’r adriddiad gefyd yn dangos mai herio lladron, pobol dan oed, a gwrthod gwasanaethu cwsmeriaid meddw, ydi’r prif resymau dros ymddygiad treisgar.
Mae Cymdeithas Siopau Cyfleus yn dadlau y dylai unrhyw fesurau newydd ddilyn camau sydd wedi’u cyflwyno i amddiffyn gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd.