Mae mwyafrif o bleidleiswyr ym mhob un o’r etholaethau sy’n cael eu cynrychioli gan Lafur yn Nhŷ’r Cyffredin yn cefnogi ail refferendwm ar Brexit.

Daw hyn i’r amlwg mewn arolwg o 26,000 o bobl gan YouGov ar ran yr ymgyrch Pleidlais y Bobl. Bwriad yr ymgyrchwyr yw defnyddio’r wybodaeth i geisio perswadio Aelodau Seneddol Llafur i gefnogi ail refferendwm.

Fe ddaeth YouGov i’r casgliad trwy greu model ystadegol o ddemograffeg allweddol sy’n cynnwys oedran, rhyw, addysg, hil a dosbarth cymdeithasol, ac yn ôl y cwmni, mae’n eu galluogi i gynhyrchu model ar gyfer pob etholaeth ym Mhrydain.

Yn ôl un o gyn-benaethiaid YouGov, yr arbenigwr gwleidyddol Peter Kellner, profodd y dull hwn i fod yn effeithiol iawn wrth ddarogan senedd grog yn yr etholiad y llynedd.

“Un peth a ddaw i’r amlwg o’r arolwg yw mai ychydig iawn o’r pleidleiswyr hynny sydd â barn gref iawn ar Brexit – boed hynny o blaid neu yn erbyn – sydd wedi newid eu meddwl ers y refferendwm,” meddai.

“Yn hytrach, etholwyr tawelach – y rheini nad ydyn nhw o angenrheidrwydd yn siarad gydag Aelodau Seneddol ar garreg y drwg – yw’r rheini sydd wedi newid eu meddwl.”