Dydy llu o fesurau i baratoi ffin y Deyrnas Unedig ar gyfer sefyllfa lle nad oes cytundeb tros Brexit ddim yn barod, yn ôl y Swyddfa Archwilio Genedlaethol.

Ymhlith y rhai sydd wedi’u cynllunio gan Lywodraeth Prydain mae adnewyddu systemau technoleg gwybodaeth, cynyddu lefelau staffio Lluoedd y Ffiniau, a chodi isadeiledd newydd i gadw llygad ar symudiad nwyddau.

Dywed y Swyddfa Archwilio fod rheoli’r ffiniau’n “allweddol bwysig”, gan dynnu sylw at y ffaith y gallai troseddwyr fanteisio ar unrhyw wendidau.

Dywedodd pennaeth y Swyddfa Archwilio, Syr Amyas Morse fod y “llywodraeth wedi derbyn yn agored y bydd y ffiniau’n llai na’i orau os nad oes cytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2019.

“Dydy hi ddim yn glir beth mae llai na’i orau yn ei olygu’n ymarferol, nac am ba hyd y bydd hyn yn para.

“Ond yr hyn sy’n glir yw mai busnesau ac unigolion sy’n dibynnu ar y ffiniau’n cael eu rheoli’n esmwyth fydd yn talu’r pris.”

Adroddiad y Swyddfa Archwilio

Mewn adroddiad, dywed y Swyddfa Archwilio fod ansicrwydd gwleidyddol ac oedi yn y trafodaethau wedi amharu ar effeithiolrwydd cynlluniau ffiniau ei hadrannau.

Mae’n rhybuddio na fydd rhai o’r cynlluniau yn eu lle erbyn 29 Mawrth, pan fydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Swyddfa Archwilio’n nodi:

– bod 11 o’r 12 o brosiectau mawr i ddisodli neu newid systemau ffiniau allweddol mewn perygl o beidio â chael eu cyflwyno mewn da bryd, neu’n is na’r safon sy’n ddisgwyliedig

– nad oes modd adeiladu isadeiledd i fonitro ac archwilio nwyddau cyn mis Mawrth

– na fydd adnoddau ychwanegol sydd eu hangen i weithredu’r ffiniau yn barod

Mae Lluoedd y Ffiniau’n bwriadu recriwtio 581 o staff ychwanegol dros y misoedd nesaf. Ond mae yna berygl, meddai’r adroddiad, na fyddan nhw wedi cael eu recriwtio cyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ymateb San Steffan

Wrth ymateb i adroddiad y Swyddfa Archwilio, dywedodd cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin, Meg Hillier, “Mae gwaith diweddara’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn dangos y cynnydd araf sy’n cael ei wneud o safbwynt y paratoadau.

“Fydd isadeiledd ger ein ffiniau ddim yn ei le rhag ofn nad oes cytundeb, ac mae yna berygl go iawn na fydd systemau’n barod.”

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain, “Mae gwaith helaeth i baratoi ar gyfer diffyg cytundeb wedi bod ar y gweill ers bron i ddwy flynedd, ac mae gennym gynlluniau cadarn yn eu lle er mwyn sicrhau bod y ffiniau’n parhau i gael eu gweithredu o’r diwrnod y byddwn yn gadael.

“Mae systemau technoleg gwybodaeth ac isadeiledd eisoes yn cael eu hadeiladu ac fel y maen nhw’n ei wneud heddiw, bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn parhau i ddefnyddio dulliau awtomatig ar sail risg i wirio tollau.

“Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw gynnydd yn nifer y gwiriadau’n cael eu cadw i’r lleiaf posib.

“Byddwn bob amser yn sicrhau bod gennym yr adnoddau angenrheidiol i gadw’r ffiniau’n ddiogel, a dyna pam ein bod ni’n recriwtio tua 600 o swyddogion Lluoedd y Ffiniau i baratoi ar gyfer y diwrnod rydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â’r 300 o swyddogion a fydd yn eu lle erbyn diwedd y flwyddyn.”