ae mwy o bleidleiswyr bellach o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd nag sydd o blaid gadael, yn ôl dadansoddiad newydd o bolau piniwn.
Mae’r ymchwil gan YouGov yn dangos bod nifer y bobol sydd o blaid aros bedwar pwynt o flaen y rheiny sy’n awyddus i ymadael.
Daw hyn wrth i ymchwil arall ddangos bod y mwyafrif o aelodau’r Ceidwadwyr yn Lloegr yn credu nad oes gwerth parhau â Brexit os yw’n golygu annibyniaeth i’r Alban ac yn bygwth heddwch yng Ngogledd Iwerddon.
Aros ar y blaen ers y llynedd
“Mae tystiolaeth yn dangos ein bod ni’n gallu bod yn eithaf sicr, cyn belled y mae’r polau piniwn yn y cwestiwn, bod yr ymgyrch i aros ar y blaen,” meddai Antony Wells, cyfarwyddwr ymchwil gwleidyddol YouGov.
Mae llai na chwe mis hyd nes bod disgwyl i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd ar Fawrth 29.
Roedd yr ymchwil wedi dadansoddi cyfanswm o 149 o bolau piniwn, a chafodd ei gynnal ar ran papur newydd The London Evening Standard.
Mae’n dangos bod yr ymgyrch o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y blaen gyda chyfartaledd o ddau bwynt wedi’i refferendwm yn 2016.
Ond yn ystod y chwe mis cyntaf o 2017, fe lwyddodd yr ymgyrch tros aros i gyrraedd y blaen gyda chyfartaledd o ddau bwynt, tra bo aros wedi gostwng un pwynt tua’r adeg.