Os bydd ail refferendwm Brexit, dylai fod yna opsiwn i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Dyna mae Keir Starmer – Ysgrifennydd Brexit yr wrthblaid – yn ei awgrymu, wrth i densiynau ddod i’r amlwg tros lle mae’r blaid yn sefyll ar y mater.

Mae Canghellor yr wethnlaid, John McDonnell, wedi dadlau na ddylai aros yn yr Undeb Ewropeaidd fod yn opsiwn, ac mai pleidlais tros sut i adael a ddylai ail refferendwm fod.

Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, yn gwrthwynebu’r syniad o gynnal ail refferendwm o gwbwl.  

Ond, mae’n debyg fod Keir Starmer yn awyddus i “gadw pob opsiwn yn agored” a dyna fydd ei neges wrth annerch cynhadledd y blaid Lafur heddiw (dydd Mawrth, Medi 25).

“Anhrefn”

“Ar adeg fel hyn, mae angen llywodraeth gref arnom,” meddai. “Ond, beth welwn gan y Torïaid? Holltau, anhrefn a methiant.

“Does yna ddim cynllun credadwy ar gyfer Brexit. Dim datrysiad i fater ffin Iwerddon. A does yna ddim mwyafrif yn y senedd am gynigion Chequers.

“Mae’r gwrthryfel Torïaidd wedi mynd rhagddo ers blynyddoedd ac mae’n ein bygwth ni i gyd. Os ydi’r blaid eisiau rhwygo ei hun yn ddarnau, iawn, ond chaiff hi ddim gwneud hynna i’r wlad hefyd.”