Mae dau o arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd wedi galw ar Lywodraeth Prydain i gynnal ail refferendwm ar Brexit.
Roedd prif weinidogion y Weriniaeth Tsiec a Malta yn siarad ar y rhaglen Today ar BBC Radio 4 wrth i drafodaethau gael eu cynnal rhwng 27 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd ynghylch Brexit.
Yn ôl y ddau, mae yna “gefnogaeth unfrydol” ymhlith yr arweinwyr eraill i’r syniad o roi ail gyfle i bobol gwledydd Prydain benderfynu a ydyn nhw am Brexit ai peidio.
Er hyn, mae’r ddau’n gobeithio na fydd Brexit yn cyrraedd y sefyllfa lle na fydd cytundeb wedi’i wneud rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.
“Cyfnod anodd i Ewrop”
Dywedodd Andrej Babis o’r Weriniaeth Tsiec ei fod wedi cael ei “syfrdanu” gan ganlyniadau’r refferendwm yn 2016, a’i fod yn credu bod y digwyddiad wedi cyfrannu at greu “cyfnod anodd” i Ewrop.
Mae’n ychwanegu ei fod yn “anhapus” gyda’r sefyllfa, a’i fod yn credu y byddai ail refferendwm yn “datrys y broblem yn eithaf cyflym.”
Yn ôl Joseph Muscat o Falta wedyn, fe fydd unrhyw gytundeb yn “israddol” o gymharu â bod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, ac ni fydd masnach “mor rhwydd ag yr oedd yn y gorffennol,” meddai.
“Dw i’n meddwl y bydd y rhan fwyaf ohonom ni’n croesawu’r sefyllfa lle mae yna bosibilrwydd y bydd pobol Prydain yn rhoi pethau yn eu cyd-destun, yn gweld beth sydd wedi cael ei drafod, yn gweld yr opsiynau, ac yna’n penderfynu unwaith ac am byth,” meddai.