Mae gwaith newydd gan wyddonwyr o’r Unol Daleithiau wedi herio’r hen ddywediad mae’r rhywogaethau cryfaf sy’n goroesi – a’n awgrymu mai’r diog sy’n ffynnu.

O edrych ar 299 rhywogaeth o folysgiaid a’u hesblygiad dros filiynau o flynyddoedd, mae’r gwyddonwyr wedi darganfod mai creaduriaid “ag anghenion isel” sy’n llwyddo.

Hynny yw, yn ôl y gwaith ymchwil, rhywogaethau sydd â gofynion egni is sydd yn llwyddo goroesi ac esblygu. Molysgiaid sydd â gofynion uwch sy’n tueddu marw allan, mae’n debyg.

Segur

“Y strategaeth hir dymor gorau i anifeiliaid, o bosib, yw bod yn segur a swrth,” meddai’r ecolegydd, yr Athro Bruce Lieberman, o dîm ymchwil Prifysgol Kansas.

“Yr isaf mae’r gyfradd fetabolig, y mwya’ tebygol mae’r rhywogaeth o oroesi. Yn hytrach na dweud ‘y cryfaf sy’n goroesi’ efallai dylwn ddweud ‘y diocaf sy’n goroesi’.”

Mae’r gwaith ymchwil ond yn profi bod y ffenomen yn bodoli ymhlith molysgiaid, ac mae’n ddigon posib nad yw’n wir i greaduriaid ag asgwrn cefn.