Fydd prif siop House of Fraser yn Oxford Street, Llundain, ddim yn cau ei drysau am y tro.

Fe ddaeth y cyjoeddiad wrth i’r grwp fynd j ddwylo’r gweinyddwyr, cyn cael ei brynu gan.berchennog Sports Direct, Mike Ashley.

Roedd disgwyl i’r brif siop yng nghanol Llundain gau ei drysau fel rhan o’r trefniant gwirfoddol gan y cwmni a gyhoeddwyd ym mis Mehefin eleni.

Ond mewn datganiad gan CBRE, yr asiantaeth sy’n cynghori Sports Direct yn eu buddsoddiad diweddaraf, roedd y siop eiconig yn Llundain yn rhan hanfodol o’r ddêl.

“Mae’n gwneud synnwyr hollol i’r siop hon aros ar agor ac i fod yn weithredol.”