Mae cyn-arweinydd yr EDL (Cynghrair Amddiffyn Lloegr), wedi ennill ei apêl yn erbyn cael ei garcharu ar gyhuddiad o ddirmyg llys.

Ym mis Mai, mi gyfaddefodd Tommy Robinson, 35, ei fod wedi torri’r gyfraith trwy ffilmio pobol y tu allan i lys yn ystod achos. Yn sgil hynny, fe gafodd ei ddedfrydu i 13 mis o garchar.

Ond, mewn llys apêl ddydd Mercher (Awst 1), fe ddyfarnodd barnwr bod yr ymgyrchydd dadleuol ac asgell dde wedi cael ei garcharu o ganlyniad i “broses ddiffygiol”.

Bydd Tonny Robinson yn cael ei rhyddhau ar fechnïaeth yn ddiweddarach heddiw, ac mae’r barnwr wedi dweud y bydd gwrandawiad newydd “cyn gynted ag sy’n bosib”.

Ffilmio

Cafodd Tommy Robinson ei garcharu ym mis Mai am ffilmio pobol oedd ynghlwm ag achos llys, y tu allan i Lys y Goron Leeds.

Aeth ati i ddarlledu’r deunydd ar gyfryngau cymdeithasol, a chafodd ei wylio gan 250,000 o bobol. Mae gohebu yn y math fodd yn anghyfreithlon.

Fe wynebodd cyhuddiadau o ddirmyg llys ym mis Mai’r llynedd hefyd, ar ôl ffilmio yn ystod achos llys pedwar dyn a chafodd eu cyhuddo o dreisio merch yn ei harddegau – mi gafwyd nhw’n euog.