Mae ymchwilwyr wedi cyhoeddi astudiaeth £2.8 miliwn i ystyried sut y gellir dileu Hepatitis C.
Yn ol amcangyfrifon, mae’r firws, sy’n brif achos afiechyd yr afu a chanser, yn effeithio tua 200,000 o bobl yn y DU, gyda’r mwyafrif yn cael cyffuriau chwistrellu.
Gall triniaeth bellach wella mwy na 90% o gleifion o fewn 8-12 wythnos gydag ychydig sgîl-effeithiau, ond mae cost gwrthfeirysau newydd yn arwyddocaol.
Bydd yr astudiaeth bum mlynedd, dan arweiniad Prifysgol Glasgow Caledonian (GCU) a Phrifysgol Bryste yn cael ei chyhoeddi cyn Diwrnod Hepatitis y Byd ddydd Sadwrn, ac yn edrych a ellir dileu’r firws yn llwyr os yw triniaeth yn cynyddu’n ddigonol.
Bydd y canlyniadau yn cael eu defnyddio i arwain ymarfer a pholisi clinigol, a chefnogi penderfyniadau’r Gwasanaeth Iechyd (GIG) ynghylch a ddylid targedu defnyddwyr cyffuriau ar gyfer triniaeth gynnar.
Trin 500 o bobol
Yn ystod yr astudiaeth, bydd ymchwilwyr yn trin hyd at 500 o bobl sy’n chwistrellu cyffuriau dros gyfnod o ddwy flynedd yn GIG Tayside. Bydd triniaeth yn cael ei gynnig mewn nifer o leoliadau gan gynnwys fferyllfeydd, gwasanaethau caethiwed a charchardai.
Mae ymchwilwyr yn rhagweld y bydd yr ymyriad hwn, gan gynnwys “triniaeth raddfa fawr a chyflym” yn lleihau Hepatitis C cronig ym mhoblogaeth pobl sy’n chwistrellu cyffuriau gan ddwy ran o dair o 30% i 10%.
Bydd yr ymchwilwyr yn asesu a yw hyn hefyd yn helpu pobl i fynd i’r afael a’u dibyniaeth ac a oes manteision cost-effeithiol tymor hir i’r GIG trwy ddarparu rhagor o fynediad i gyffuriau HCV (firws Hepatitis C) yn y gymuned.
“Hynod effeithiol”
“Bydd yr astudiaeth yn cynhyrchu tystiolaeth empirig ynghylch a all trin pobl sy’n chwistrellu cyffuriau leihau lledaeniad yr haint,” meddai’r Athro Sharon Hutchison, yr ymchwilydd arweiniol ar y cyd yn yr astudiaeth.
“Rydym yn gwybod y gall pobl sy’n chwistrellu cyffuriau gael eu hail-effeithio. Fodd bynnag, rydym hefyd yn gwybod bod y cyffuriau HCV newydd yn hynod effeithiol.
“Rydym yn rhagdybio, os bydd triniaeth HCV yn cynyddu’n ddigonol, yn y pen draw, gellid dileu’r firws. Bydd yr astudiaeth yn profi hyn gan ddefnyddio data ar lefel poblogaeth ledled y DU.”