Mae gwylio natur yn darparu “lle gwerthafawr i anadlu” yng nghanol straen y bywyd modern, meddai Syr David Attenborough, wrth iddo annog pobl i gymryd rhan yng nghyfrif mwyaf poblogaidd y glöyn byw.
Er bod gloÿnnod byw gwledydd Prydain eleni yn mwynhau’r amodau haf gorau ers dros ddegawd, mae yna rybudd y gallai sychder o ganlyniad i dywydd sych fod yn “drychinebus” i’r pryfed. Fe fydd planhigion yn gwywo a’r lindys yn crino, meddai’r naturiaethwr.
Mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y ‘Big Butterfly Count’ dros y tair wythnos nesaf er mwyn helpu arbenigwyr i weld sut mae gloÿnnod byw yn ymdopi… ac i fwynhau manteision iechyd meddwl wrth wylio bywyd gwyllt.