Mae profion gwyddonol ar anifeiliaid byw wedi gostwng i’w lefel isaf ers 2010, yn ol ystadegau swyddogol.
Fe gynhaliodd ymchwilwyr 3.79 miliwn o brofion o bob math ar anifeiliaid byw yn Lloegr, yr Alban a Chymru y llynedd – sy’n ostyngiad o 4% oddi ar 2016, a’r nifer lleiaf am wyth mlynedd.
Fodd bynnag, mae’r nifer yn 4% yn uwch nag yr oedd ddegawd yn ôl, meddai data y Swyddfa Gartref.
Roedd ceffylau yn rhan o 10,600 o arbrofion yn 2017, cynnydd 18% ar y flwyddyn flaenorol pan oedd y rhif yn 8,948.
Dywed y Swyddfa Gartref mai prif bwrpas y prosesau ar geffylau yw “ar gyfer darparu cynhyrchion gwaed ar gyfer cynnyrch diagnostig”.
Ond mae ymgyrchwyr hawliau anifeiliaid yn dweud fod y gostyngiad cyffredinol wedi dod yn “rhy hwyr”, ac maen nhw’n galw am fwy o fuddsoddiad mewn dulliau gwyddonol nad ydyn nhw’n gofyn am brofi ar greaduriaid byw.