Mae’n “annhebygol” nad oes cyswllt rhwng dau achos o wenwyno â Novichok yn ne-orllewin Lloegr dros y misoedd diwethaf, yn ôl pennaeth gwrth-derfysgaeth gwledydd Prydain.
Ond dywed Neil Basu, sy’n un o gomisiynwyr cynorthwyol Heddlu Llundain, fod yn rhaid i’r ymchwiliad ddibynnu ar dystiolaeth yn unig.
Cafodd Sergei Skripal a’i ferch Yulia eu gwenwyno yn Salisbury ym mis Mawrth, ac fe gafodd Dawn Sturgess a Charlie Rowley eu gwenwyno yn Amesbury ddeng niwrnod yn ôl. Bu farw Dawn Sturgess nos Sul
Mae wyth milltir rhwng y ddau le ond yn ôl Neil Basu, byddai angen profi fod cyswllt fforensig rhwng y ddau achos.
“Byddwn i wrth fy modd o gael dweud ein bod ni wedi adnabod a dal y bobol sy’n gyfrifol a’n bod ni’n sicr nad oes olion o’r asiant nerfol unrhyw le yn Wiltshire.
“Ond y gwir caled yw na alla i gynnig unrhyw sicrwydd i chi ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, allwn ni ddim dweud â sicrwydd fod cyswllt rhwng y digwyddiad ym mis Mawrth a’r digwyddiad diweddaraf hwn.
“Yn amlwg, dyna brif linyn ein hymchwiliad, ond rhaid i’n hymchwiliad gael ei arwain gan y dystiolaeth a’r ffeithiau sydd ar gael. Byddai angen i gyswllt fforensig fod yn un pendant.”
Novichok
Mae’r heddlu’n ymchwilio i’r posibilrwydd fod Dawn Sturgess a Charlie Rowley wedi dod o hyd i gynhwysydd oedd yn dal y nwy nerfol Novichok.
Gall Novichok fod yn weithgar am hyd at 50 o flynydoedd o gael ei gadw mewn cynhwysydd.
Mae’r heddlu wedi’u beirniadu gan drigolion Amesbury am fethu â chwilio am Novichok ar ddechrau’r ymchwiliad.