Mae’r cyn-Ysgrifennydd Brexit, David Davis, wedi rhybuddio bod Llywodraeth Prydain yn rhoi “gormod i ffwrdd, yn rhy rwydd” yn y trafodaethau Brexit.

Er hyn, mae’n parhau i gefnogi’r Prif Weinidog, Theresa May, gan ychwanegu y byddai her i’w harweinyddiaeth yn “beth anghywir i’w wneud”.

Daw’r sylwadau hyn yn dilyn ymddiswyddiad David Davies yn hwyr neithiwr, a hynny ddyddiau’n unig ar ôl i Gabinet Theresa May gytuno ar gynllun a fyddai’n cadw cysylltiad agos rhwng y Deyrnas Unedig a Brwsel.

Yn ei lythyr ymddiswyddo, fe ddywedodd David Davies fod y “duedd bresennol o bolisi a thactegau” yn ei gwneud yn “llai a llai tebygol” y bydd Brexit yn cael ei gyflawni ar sail canlyniadau’r refferendwm yn 2016.

Dominic Raab, a oedd yn weinidog tai, sydd wedi cael ei benodi i olynu David Davis. Roedd yn aelod blaenllaw o’r ymgyrch dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn ystod y refferendwm yn 2016.

“Prif Weinidog da”

Mewn cyfweliad ar raglen Today ar BBC Radio 4 y bore yma, fe ddywedodd David Davis nad oedd ganddo unrhyw amheuon am awdurdod Theresa May fel Prif Weinidog, gan fynnu ei bod yn “Brif Weinidog da”.

Ond wrth gyfeirio at bolisi’r Llywodraeth sy’n ymwneud â Brexit, ychwanegodd fod yna wahaniaethau rhyngddynt.

“Pan wnaethom ni ddadlau ar hyn yn y cyfarfod Cabinet ddydd Gwener, fy sylw agoriadol i Theresa oedd, ‘Prif Weinidog, fel yr ydych chi’n gwybod, dw i’n mynd i fod yn ddyn lletchwith ar hyn’,” meddai.

“Roedd hi’n gwybod hyn oherwydd fy mod i wedi ysgrifennu ati ddechrau’r wythnos.”

‘Gwendidau’

 Aeth David Davis yn ei flaen wedyn i gyfaddef ei fod wedi “colli’r ddadl” yn y cyfarfod ddydd Gwener, gan ychwanegu bod gan bolisi’r Prif Weinidog, yn ei farn ef, “nifer o wendidau”.

“Roedd rhaid i fi fod ar flaen y gad yn darparu’r polisi hwn,” meddai wedyn, “yn ei esbonio i’r Senedd, yn perswadio’r Senedd mai hwn sy’n iawn, cyn mynd ymlaen i’w ddarparu i’r Undeb Ewropeaidd.

“Ond i ddweud y gwir, yn union fel y mae pobol yn gwybod beth yw’r polisi, mae pobol hefyd yn gwybod am y pryderon oedd gen i amdano.

“Fyddai hi ddim wedi bod y peth iawn i wneud hynny, a fydda’ i ddim wedi gwneud gwaith da gydag e.”

Y bunt yn codi

 Ers y cyhoeddiad ynglŷn ag ymddiswyddiad David Davis, mae’n ymddangos bod y bunt wedi gwneud yn dda yn y farchnad ariannol.

Erbyn y bore yma, roedd wedi codi 0.5% yn erbyn y ddoler sydd ar hyn o bryd ar 1.33, a 0.3% yn erbyn yr euro sydd ar 1.13.

Yn ôl un arbenigwr, mae’r cynnydd hwn yn “rhyfedd” ar yr un llaw, ond bod ymadawiad David Davis ar y llaw arall yn golygu bod mwy o debygrwydd y bydd Brexit ‘meddal’ yn digwydd.