Mi fydd Prif Weinidog Prydain, Theresa May, yn galw am “undod” o fewn ei phlaid mewn cyfarfod heno (dydd Llun, Mehefin 11), a hynny ar drothwy’r bleidlais ar y Mesur Ymadael yr wythnos hon.
Mi fydd y Mesur a fydd yn galluogi’r Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd yn dychwelyd i Dŷ’r Cyffredin yfory yn sgil wythnosau o waith craffu yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Mae gweinidogion y llywodraeth yn gobeithio gwrth-droi nifer o’r newidiadau sydd wedi’u cyflwyno gan yr arglwyddi, ond mae disgwyl i rai aelodau o’r Blaid Geidwadol fynd yn groes i hyn.
Mi fydd Theresa May felly yn ymddangos o flaen Pwyllgor 1922, sy’n gyfrifol am ASau sedd gefn y Blaid Geidwadol, er mwyn atgoffa ei aelodau fod ganddyn nhw gyfrifoldeb i ddarparu Brexit.
Mi fydd hefyd yn nodi bod y ffordd y maen nhw’n pleidleisio ddydd Mawrth a Mercher yr wythnos hon yn anfon neges “bwysig” i’r wlad.
Darparu Brexit
“Mae pwrpas y Mesur Ymadael yn syml – y bwriad yw cyfreithloni deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd a sicrhau symudiad llyfn a threfnus wrth i ni adael,” meddai Theresa May.
“Ond mae’r neges rydyn ni’n ei hanfon i’r wlad trwy ein pleidleisiau’r wythnos hon yn bwysig. Mae’n rhaid inni fod yn glir ein bod ni’n unedig fel plaid yn ein hymdrech i ddarparu ar benderfyniad pobol gwledydd Prydain.
“Maen nhw eisiau inni ddarparu ar Brexit ac adeiladu dyfodol gwell i wledydd Prydain wrth inni gymryd grym yn ôl ar ein harian, ein cyfreithiau a’n ffiniau.”