Dylai gweithwyr cymdeithasol ddefnyddio gwefannau cymdeithasol Facebook a Twitter i gysylltu â phobol sy’n rhannu deunydd eithafol a threisgar ar-lein, yn ôl arbenigwr ar derfysgaeth.

Yn ol Vidhya Ramalingam, a sefydlodd Moonshot CVE i fynd i’r afael ag eithafiaeth a thrais yn y gymuned, fe ddylai gweithwyr cymdeithasol gael yr un math o sgyrsiau â throseddwyr ag y gallai gweithiwr ieuenctid eu cael gyda giang ar y strydoedd.

Ac fe ddylai technoleg newydd gael ei defnyddio i nodi pobol a allai fod mewn peryg o gyflawni gweithredoedd terfysgol yng ngwledydd Prydain, neu deithio dramor i wneud hynny.

“Weithiau dyw’r arwyddion ddim yn amlwg iawn yn y byd o’n cwmpas. Rydyn ni’n byw mewn byd go iawn lle gallwch chi eistedd a chyffwrdd â’r person nesaf i chi, ond mae gennym ni hefyd fywyd ar-lein,” meddai.

“Oni bai eu bod yn tatŵo swastika ar eu talcen neu yn gosod llwyfan yng nghanol y stryd ac yn dweud wrthym eu bod yn credu yn y pethau hyn, gall fod yn anodd iawn i ni weld hynny yn eu bywydau bob dydd.

“Ond ar-lein gallen nhw fod yn byw bywyd hollol wahanol. Gallen nhw fod yn sefyll ar y llwyfan hwnnw yn postio fideos sy’n gogoneddu Hitler… a’r rheswm pam y mae cyfle yw bod pobol sy’n cymryd rhan yn y mudiadau hyn yn aml yn gadael llwybr cliwiau ar-lein a fydd yn rhoi gwybod i ni eu bod yn cymryd rhan.”