Mae dyn 20 oed o Coventry wedi’i arestio ar amheuaeth o fod ynglyn â throseddau brawychol.

Fe gafodd y gwr ei arestio gan swyddogion ar Ebrill 24 dan y Ddeddf Ffrwydron, ond fe gafodd ei ryddhau nes iddo gael ei ddwyn i’r ddalfa eto heddiw (dydd Iau, Mai 3).

Yn ol Heddlu’r West Midlands, mae wedi’i arestio ar amheuaeth o fod ynglyn â chomisiynu, paratoi a gweithredu brawychiaeth – a hynny wedi i eitemau a dogfennau electronig a gafodd eu cymryd o gyfeiriad yn Brookside Avenue, Coventry, gael eu harchwilio gan arbenigwyr.