Mae dynion arfog wedi herwgipio un o weithwyr y Groes Goch ym mhrifddinas Somalia.

Yn ol llefarydd ar ran y mudiad dyngarol, fe lwyddodd y dynion i orfodi’u ffordd i mewn i ganolfan Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch yn Mogadishu, a chipio’r Almaenes a oedd yn gweithio yno fel nyrs.

Fe ddigwyddodd ddiwrnod yn unig wedi i un o weithwyr Sefydliad Iechyd y Byd (y WHO) gael ei saethu’n farw gan ddau ddyn mewn marchnad brysur.

“Rydyn ni’n gofidio’n arw am les ein cydweithwraig,” meddai Daniel O’Malley, dirprwy bennaeth y Groes Goch yn Somalia.

“Mae hi’n nyrs sy’n gweithio bob dydd i achub bywydau ac i wella amodau ar gyfer pobol fwya’ bregus Somalia.”