Mae toriadau i nifer plismyn “yn debygol” o fod wedi achosi cynnydd mewn troseddau treisgar difrifol, yn ôl dogfen o’r Swyddfa Gartref.

Dyw’r toriadau ddim yn “brif ffactor”, meddai’r ddogfen, ond mae’n debyg eu bod yn “ffactor llai amlwg” sydd, o bosib, wedi “ysgogi” troseddwyr.

Er hynny, dyw’r lluoedd sydd wedi cael gwared ar y swm uchaf o blismyn, ddim o reidrwydd wedi profi’r twf trosedd mwyaf, yn ôl y ddogfen.    

Daeth y papur i law’r Guardian, ac mae ei gynnwys yn debygol o achosi embaras i weinidogion o San Steffan sydd wedi wfftio’r cysylltiad rhwng toriadau a thwf trosedd.

Rhwng Mawrth 31 2010 a 2017, cwympodd niferoedd swyddogion heddlu yn lluoedd gwledydd Prydain o 143,734 i 123,142.

Lansiad

Mae cyhoeddiad manylion y ddogfen yn cyd-daro â lansiad ymgyrch gan yr Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd, yn erbyn troseddau treisgar.

“Ni fydd ein Llywodraeth yn sefyll o’r neilltu tra bod asid yn cael ei luchio, a chyllyll yn cael eu defnyddio’n arfau,” bydd Amber Rudd yn dweud ddydd Llun (Ebrill 9).

“Rhaid i ni wneud popeth sydd yn rhaid i ni wneud er mwyn mynd i’r afael â hyn, fel bod dim un rhiant yn gorfod claddu eu plentyn. Dw i’n glir am hynny.”