Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn wynebu her gyfreithiol, yn dilyn eu penderfyniad i roi cytundeb cynhyrchu pasborts i gwmni o Ffrainc.
Fe ddaeth y cyheoddiad mai cwmni Gemalto fyddai’n gyfrifol am gynhyrchu pasbortau glas Gwledydd Prydain – a bod pencadlys y cwmni yn Ffrainc.
Ond, mae’r cwmni Prydeinig sydd yn gyfrifol am wneud hyn ar hyn o bryd, De La Rue, yn mynnu mai nhw yw’r opsiwn “gorau a mwyaf diogel”.
“Ar sail ein dealltwriaeth o’r farchnad, yn ein barn ni, fe wnaethom gynnig cais o’r safon uchaf – y cais mwyaf diogel yn dechnegol,” meddai llefarydd ar ran y cwmni.
Ac erbyn hyn, mae’r cwmni wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu apelio penderfyniad y Llywodraeth.
Pasbortau glas
Ym mis Rhagfyr y llynedd, cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai pasbortau gwledydd Prydain yn newid i fod yn las ac aur yn dilyn Brexit.
Mae gweinidogion eisoes wedi derbyn tipyn o feirniadaeth, gan mai cwmni o’r cyfandir fydd yn gyfrifol am weithredu’r newid yma.