Mae arweinwyr y gymuned Iddewig wedi beirniadu Jeremy Corbyn yn hallt, gan ei gyhuddo o ochri â phobl gwrth-Iddewig “dro ar ôl tro.”

Daw’r sylw wedi i Arweinydd y Blaid Lafur ymddiheuro am y boen sydd wedi’i achosi gan rai gwrth-Semitiaid o fewn ei blaid ei hun.

Mewn llythyr agored, mae Bwrdd yr Iddewon Prydeinig, a’r Cyngor Arweinyddiaeth Iddewig, wedi wfftio hyn gan dargedu Jeremy Corbyn yn uniongyrchol.

“Digon yw digon”

“Heddiw, mae arweinwyr Iddewon Prydain yn dweud wrth Jeremy Corbyn mai digon yw digon,” meddai llythyr y mudiadau.

“Dawn i’r casgliad, ei fod wedi methu â gweld gwrth-Semitiaeth oherwydd ei fod yn sownd … â bydolwg asgell chwith eithafol sydd yn gynhenid ymosodol tuag at gymunedau Iddewig o’r brif ffrwd.”

Mae’r mudiadau yn bwriadu cynnal protest tu allan i Senedd San Steffan, cyn cyflwyno’r llythyr i Aelodau Seneddol ac Arglwyddi o’r Blaid Lafur.