Mae ysgolion yn cael eu gorfodi i gadw golwg ar gyfryngau cymdeithasol i ddiogelu eu henw da oherwydd bod rhieni’n postio cwynion ar-lein, yn ôl penaethiaid.

Ac mae ymdrin â materion ar y cyfryngau cymdeithasol wedi cynyddu llwyth gwaith athrawon, yn ôl Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau.

Mewn rhai achosion, efallai y bydd athrawon yn teimlo eu bod yn cael eu bwlio gan rieni sy’n troi at y rhyngrwyd i gwyno, meddai arweinwyr undebau.

Mae rhai ysgolion yn dechrau gofyn i famau a thadau gytuno ar sut y byddan nhw yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol pan fydd eu plentyn yn dechrau yn yr ysgol.

Wrth i’r Gymdeithas Arweinwyr gyfarfod am ei chynhadledd flynyddol yn Birmingham, dywedodd yr ysgrifennydd cyffredinol, Geoff Barton, y byddai rhieni yn ffonio, e-bostio neu’n ysgrifennu at ysgolion yn y gorffennol pe baen nhw yn anhapus.

Bellach maen nhw’n postio ac yn rhannu ar-lein. Bu Geoff Barton yn bennaeth, ac mae ganddo brofiad personol o’r cwyno ar-lein.

“Er enghraifft,” meddai,  “pe bai rhywun ar ein tudalen Facebook yn ysgrifennu, ’roedd athro mathemateg yn annymunol i’n plentyn heddiw, mae’r ysgol yn warth’, fe fyddem yn ffonio’r rhiant hwnnw ar unwaith a dweud, ‘a fyddech chi gystal â dod i mewn i siarad â ni am hyn? ‘”