Fe fydd Theresa May yn dweud wrth arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd (UE) ei bod eisiau cytundeb masnach “mor eang â phosib” ar ôl Brexit.
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog amlinellu’r math o berthynas mae hi eisiau gyda Brwsel mewn araith i weinidogion heddiw.
Fe fydd hi’n dweud ei bod eisiau i Brydain gael y rhyddid i ddod i gytundebau masnach ar draws y byd tra’n sicrhau perthynas gyda’r UE lle maen nhw’n parhau i “gefnogi ein buddiannau ein gilydd”.
Yn ystod ei haraith yn Mansion House yn Llundain fe fydd Theresa May yn gosod pum canllaw ar gyfer y trafodaethau:
- Bod angen i’r cytundeb barchu canlyniad y refferendwm yn 2016 i gymryd rheolaeth yn ôl dros “ein ffiniau, cyfreithiau ac arian.”
- Bod angen i’r cytundeb barhau, heb yr angen i fynd yn ôl at y bwrdd trafod am fod y cytundeb wedi methu.
- Bod yn rhaid i’r cytundeb ddiogelu swyddi a diogelwch.
- Bod yn rhaid i’r cytundeb olygu bod Prydain yn parhau yn “ddemocratiaeth Ewropeaidd sy’n fodern, agored, ac yn oddefgar.”
- A bod y cytundeb yn cryfhau “ein hundeb o genhedloedd a’n hundeb o bobl”.
“Mae’n rhaid i ni ddod a’n gwlad yn ôl at ei gilydd gan gymryd i ystyriaeth barn pawb, o ddwy ochr y ddadl,” mae disgwyl iddi ddweud.
“Fel Prif Weinidog mae gen i ddyletswydd i gynrychioli’r Deyrnas Unedig i gyd, Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.”