Mae dadl Dydd Gŵyl Dewi yn Nhŷ’r Cyffredin wedi’i chanslo, er mwyn gwneud yn siwr bod Aelodau Seneddol o Gymru yn medru dychwelyd i’w hetholaethau cyn i’r tywydd waethygu.

Materion Cymreig oedd testun y ddadl, a’r nod oedd nodi diwrnod ein nawddsant, ond cafodd y sesiwn ei gohirio oherwydd rhagolygon o eira trwm.

Erbyn hyn, mae yna rybudd tywydd coch mewn grym yn ne ddwyrain Cymru, ac mae’r Swyddfa Dywydd yn disgwyl “difrod ledled yr ardal” o 3yh ymlaen.

“Yn sgil cais gan ein haelodau Cymreig, mae’r ddadl ar Ddydd Gŵyl Dewi ar faterion Cymreig wedi’i gohirio fel eu bod yn medru dychwelyd adref yn ddiogel,”  meddai’r Aelod Seneddol, Ian Mearns.

“Ymddiheuraf i aelodau Anrhydeddus a Gwir Anrhydeddus o bob ochr i’r Tŷ, ond dw i’n credu bod hyn yn ddealladwy o ystyried yr amodau yn y wlad.”

Storm Emma

Er bod eira trwm eisoes wedi bod yn disgyn ledled Prydain yn sgil llif awel oer o Rwsia, mae disgwyl tywydd llawer fwy garw ddydd Iau gan fod Storm Emma wedi cyrraedd ein glannau.

Mae dynion tywydd yn rhybuddio y bydd stormydd rhewllyd a thymheredd is fyth. Gall hi deimlo mor oer â minws 11C mewn rhai ardaloedd.