Ni fydd y Deyrnas Unedig yn rhan o’r Undeb Dollau wedi Brexit, yn ôl Rhif 10.

Daw’r cyhoeddiad hwn wrth i’r Prif Weinidog, Theresa May, a’r Ysgrifennydd Brexit, David Davis, baratoi i gwrdd â Phrif Drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier, ym Mrwsel heddiw ar gyfer wythnos o drafodaethau.

Daw hefyd ar ôl i rai aelodau o’r Blaid Geidwadol, sydd o blaid Brexit caled, rybuddio dros y penwythnos y gall Theresa May wynebu cystadleuaeth am ei harweinyddiaeth os na fydd hi’n sicrhau “Brexit glân”.

“Nid yw’n bolisi gennym ni i aros yn yr Undeb Dollau,” meddai llefarydd ar ran Rhif 10 ddydd Llun.

Dywedodd hefyd eu bod nhw’n chwilio am “gytundeb” gyda’r Undeb Ewropeaidd er mwyn sicrhau na fydd masnach yn cael ei heffeithio yn dilyn Brexit.

Y trafodaethau

Y cyfarfod ym Mrwsel heddiw fydd y cyfarfod swyddogol cyntaf rhwng Theresa May, David Davis a Michel Barnier ers i arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd gytuno fis Rhagfyr y llynedd i gychwyn ar y rhan nesaf o drafodaethau ynglŷn â Brexit.

Fe fydd y trafodaethau yn canolbwyntio ar y cyfnod trosglwyddo cyn y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn llawn.

Mae disgwyl y bydd hawliau dinasyddion yn cael eu trafod hefyd, wrth i Theresa May fynnu na ddylai dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n cyrraedd y wlad ar ôl Brexit gael yr un hawliau â dinasyddion y Deyrnas Unedig.

Fe  fydd cyhoeddiad ar sut mae’r trafodaethau wedi mynd yn cael ei wneud gan David Davis a Michel Barnier ddiwedd yr wythnos.