Fe wnaeth “cowbois” meysydd parcio preifat geisio dirwyo rhywun oedd wedi marw, yn ôl tystiolaeth gan Aelod Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw.

  

Dywedodd y Gweinidog Cysgodol tros Gymunedau, Yvonne Fovargue, ei bod wedi clywed am hanes un cwmni oedd yn pwyso ar berthnasau siopwr oedd wedi marw, a oedd wedi achosi “gofid sylweddol”.

 

Fe wnaeth Llafur gefnogi newid yn y gyfraith i gyflwyno côd ymddygiad i reoli’r dull o redeg meysydd parcio preifat.

 

Y cyn-Weinidog Ceidwadol, Syr Greg Knight, sydd y tu ôl i’r mesur, ac fe wnaeth yntau sôn am hanes dyn sy’n wynebu bil o £100 ar ôl stopio mewn cilfach wag ar ochr y ffordd am 15 eiliad i edrych ar ei ddyfais llywio lloeren.

 

Cefnogaeth i’r mesur

 

Mae’r mesur bellach yn symud ymlaen at yr ail ddarlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin ar ôl iddo gael ei basio heb wrthwynebiad ar y darlleniad cyntaf.

 

Mae Llywodraeth San Steffan yn cefnogi’r mesur, ac amlinellodd sut roedd am stopio cwmnïau twyllodrus rhag rhoi dirwyon di-angen a chael mynediad at ddata gyrwyr.

 

Wrth gefnogi’r mesur, dywedodd AS Llafur De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty, bod “angen syrthio’n drwm ar y cwmnïau drwg hyn – maen nhw’n dwyn anfri ar y wlad”.