Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump yn anfodlon â pherthynas fasnachu’r wlad gyda’r Undeb Ewropeaidd, yn ôl y newyddiadurwr Piers Morgan.

Daw ei sylwadau yn dilyn cyfweliad a fydd yn cael ei ddarlledu ar ITV nos Sul am 10 o’r gloch.

Yn ystod y cyfweliad, dywedodd Donald Trump y byddai’n magu agwedd “fwy cadarn” wrth ymdrin â’r Undeb Ewropeaidd nag agwedd Prif Weinidog Prydain, Theresa May.

Dywedodd ei fod yn teimlo bod yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn “annheg iawn, iawn” â’r Unol Daleithiau ac y byddai hynny’n gweithio yn eu herbyn.

Agwedd gadarn

Fe fu Piers Morgan yn siarad ar raglen Andrew Marr heddiw ar drothwy darlledu’r cyfweliad.

“A oes yna unrhyw un ar y blaned sy’n amau go iawn y byddai Donald Trump yn cynnal trafodaethau mwy cadarn na Theresa May a’i llywodraeth?

“Dw i’n credu ei fod e wedi edrych arno a dweud ‘Beth yn union mae Prydain yn ei drafod yma? Ydych chi’n gadael go iawn? Ydych chi’n ceisio esgus nad ydych chi’n gadael?

“Dydy e ddim yn deall cynildeb.

“Roedd e’n feirniadol iawn o’r Undeb Ewropeaidd – dywedodd e fod ei ymdriniaeth ei hun o’r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn eitha’ problematig ac fe rybuddiodd e’n gadarn ei fod e’n dod ar eu holau nhw o ran masnach.”

Mail on Sunday

Yn y cyfweliad, sydd wedi’i gyhoeddi’n rannol gan y Mail on Sunday, dywed Donald Trump: “Dw i’n cynrychioli’r Unol Daleithiau, mae’n sefyllfa annheg iawn.

 

“Allwn ni ddim cael ein cynnyrch i mewn. Mae’n anodd dros ben. Ac eto maen nhw’n anfon eu cynnyrch i’w ddefnyddio – dim trethi, ychydig iawn o drethi. Mae’n annheg iawn.

“Dw i wedi cael llawer o broblemau gyda’r Undeb Ewropeaidd, ac fe allai fynd yn rhywbeth llawer iawn mwy o’r safbwynt yna, o safbwynt masnach.”

Ychwanegodd Piers Morgan fod Donald Trump yn “rym mawr ar y llwyfan rhyngwladol nawr”.

 

Bydd y cyfweliad yn cael ei ddarlledu ar ITV am 10 o’r gloch nos Sul.