Mae’r cwmni archfarchnad Tesco wedi cyhoeddi heddiw eu bod yn cael gwared a 1,700 o swyddi mewn ymdrech i “symleiddio” strwythur y cwmni ac arbed costau.
Mae Tesco wedi cadarnhau y byddan nhw’n cael gwared a nifer o swyddi rheolwyr yng nghanghennau mwyaf y cwmni, er mwyn “gwella effeithlonrwydd” a sicrhau bod gan reolwyr y cwmni yn y dyfodol “atebolrwydd uniongyrchol” i gwsmeriaid.
Fe fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar 1,700 o staff, ac mae Tesco wedi dweud y byddan nhw’n ceisio canfod swyddi eraill iddyn nhw o fewn y cwmni “lle mae hynny’n bosib”.
“Mae’r newidiadau hyn yn cael gwared ar unrhyw gymhlethdod,” meddai llefarydd ar ran y cwmni, “ac fe fydd yn darparu profiad mwy syml a chynorthwyol i’n cydweithwyr a’n cwsmeriaid.
“Rydym ni’n cydnabod bod y newidiadau hyn yn rhai anodd, ond maen nhw’n hanfodol i sicrhau bod ein busnes yn parhau i fod yn gystadleuol ac yn barod ar gyfer y dyfodol.”
Toriadau Tesco
Dim ond y llynedd y cafodd 1,200 o swyddi eu torri ym mhrif swyddfa’r cwmni yn Llundain, ac fe gafodd ei gadarnhau hefyd y bydd 1,100 o swyddi’n yn cael eu colli wrth iddyn nhw gau’r ganolfan gwasanaeth cwsmer yng Nghaerdydd.
Mae’r newidiadau hyn wedi cael eu gwneud mewn ymdrech gan y Prif Weithredwr, Dave Lewis, i ailstrwythuro’r cwmni ac i wella ei berfformiad economaidd.
Ers ymgymryd â’r swydd yn 2014, mae dros 10,000 o swyddi o fewn y cwmni diflannu.