Mae Theresa May yn y broses o ad-drefnu ei Chabinet ar hyn o bryd ac mae disgwyl iddi  wneud y newidiadau mwyaf sylweddol ers iddi ddod i Downing Street yn 2016.

Daeth cadarnhad bod aelodau blaenllaw’r Cabinet – yr Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd a’r Canghellor Philip Hammond, ynghyd a’r Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson a’r Ysgrifennydd Brexit David Davis – yn parhau yn eu swyddi.

Mae David Lidington wedi’i benodi yn Weinidog Swyddfa’r Cabinet gan olynu Damian Green a ymddiswyddodd fis diwethaf ar ôl cyfaddef dweud celwydd am bornograffi ar gyfrifiadur ei swyddfa.

Ond ni fydd David Lidington yn dwyn y teitl Ysgrifennydd Gwladol sydd, i bob pwrpas, yn golygu bod yn ddirprwy i Theresa May.

Brandon Lewis sy’n olynu Syr Patrick McLoughlin fel cadeirydd y Blaid Geidwadol ac fe fydd hefyd yn weinidog heb bortffolio. Roedd Brandon Lewis wedi bod yn weinidog mewnfudo ers mis Mehefin y llynedd.

Roedd Syr Patrick McLoughlin wedi cael y bai am berfformiad gwael y Ceidwadwyr yn yr etholiad brys y llynedd.

James Cleverly sydd wedi cael ei benodi yn ddirprwy gadeirydd.

Mae ‘na awgrymiadau nad oes sicrwydd am swyddi’r Ysgrifennydd Addysg Justine Greening, yr Ysgrifennydd Busnes Greg Clark ac arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Andrea Leadsom.

 

Cawlach ar Twitter

Cafwyd ffradach wrth ddilyn y newyddion am yr ad-drefnu bore ma, wrth i enw Chris Grayling gael ei gadarnhau ei fod yn symud o fod yn Ysgrifennydd Trafnidiaeth i fod yn Gadeirydd y Blaid Geidwadol, a hynny ar gyfrif Twitter swyddogol y Blaid.

Munud ar ôl ei gyhoeddi, cafodd ei ddileu. Mae’n debyg mai cyfarwyddwr gwleidyddiol CCHQ Iain Carter oedd wedi anfon y trydariad drwy gamgymeriad, meddai ffynhonnell.

James Brokenshire

Yn annisgwyl, fe gyhoeddodd Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon James Brokenshire ei fod e’n ymddiswyddo o’r Cabinet a hynny am resymau iechyd. Roedd yr AS dros Hornchurch wedi bod yn y swydd ers i Theresa May ddod i rym ym mis Mehefin 2016.

Rhagor i ddod…