Gallai swyddi nifer o weinidogion Llywodraeth Prydain fod mewn perygl wrth i’r Prif Weinidog Theresa May ad-drefnu ei Chabinet, yn ôl adroddiadau.

Ymddiswyddiad y Prif Ysgrifennydd Gwladol, Damian Green fis diwethaf sydd wedi arwain at y penderfyniad, ar ôl iddo gyfaddef dweud celwydd am ddelweddau pornograffig ar ei gyfrifiadur.

Ar hyn o bryd, mae lle i gredu bod swyddi’r Canghellor Philip Hammond, yr Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson, yr Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd a’r Ysgrifennydd Brexit David Davis yn ddiogel.

Ond mae amheuon am ddyfodol yr Ysgrifennydd Addysg Justine Greening, cadeirydd y Ceidwadwyr Syr Patrick McLoughlin, yr Ysgrifennydd Busnes Greg Clark ac Arweinydd Tŷ’r Cyffredin Andrea Leadsom.

Gallai nifer o weinidogion iau, gan gynnwys Brandon Lewis a Dominic Raab ennill dyrchafiad.

Ond mae llefarydd ar ran Downing Street yn dweud mai “gwaith dyfalu” yn unig yw’r newidiadau honedig.

Prif Ysgrifennydd Gwladol

Dydy hi ddim yn glir eto a fydd Prif Ysgrifennydd Gwladol yn cael ei benodi yn lle Damian Green.

Ond pe bai’r swydd ar gael, mae lle i gredu mai’r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt yw’r ffefryn i’w llenwi.