Llais Ukip ac adain dde eithafol ei phlaid yw’r Prif Weinidog Theresa May erbyn hyn, yn ôl gwleidydd sydd wedi dal swydd allweddol yn ei llywodraeth.

Mae’r Arglwydd Adonis newydd ymddiswyddo fel cadeirydd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol, a dywed ei fod yn teimlo dyletswydd i wrthwynebu Bil Gadael yr Undeb Ewropeaidd pan ddaw gerbron Tŷ’r Arglwyddi.

Er mai gwleidydd Llafur yw’r Arglwydd Adonis, cafodd ei benodi yn 2015 gan y canghellor ar y pryd, George Osborne, fel cadeirydd y Comisiwn, i fod yn gyfrifol am roi cyngor arbenigol i’r Llywodraeth ar faterion fel ffyrdd a rheilffyrdd.

Yn ei lythyr at y Prif Weinidog, dywed yr Arglwydd Adonis:

“Chwiw o genedlaetholdeb popiwlist a pheryglus a fyddai’n deilwng o Donald Trump yw Brexit.

“Ar ôl y bleidlais agos yn y refferendwm am gynnig heb ei ddiffinio i ‘adael yr Undeb Ewropeaidd’, gellid bod wedi ceisio gwneud hyn heb dorri’n cysylltiadau masnachol a gwleidyddol Ewropeaidd hanfodol.

“Fodd bynnag, trwy ddod yn llais Ukip ac adain dde genedlaetholgar eithafol eich plaid, rydych wedi dilyn cwrs gwahanol, nad oes gennych unrhyw fandad seneddol na phoblogaidd iddo.”