Dydy clwb golff yr Arlywydd Donald Trump yn yr Alban ddim bellach yn gymwys i gael gostyngiad yn ei drethi.
Yn ôl y Sunday Herald, mae Llywodraeth yr Alban wedi newid y gyfraith yn eu Cyllideb ddiweddaraf, sy’n golygu nad yw’r clwb yn rhan o gynllun gostwng trethi busnesau erbyn hyn.
Cafodd y mesurau newydd eu cyflwyno fis Chwefror eleni er mwyn helpu’r sector lletygarwch.
Ym mis Awst, fe ddaeth i’r amlwg fod Trump Turnberry wedi elwa o ostyngiad gwerth £109,530 mewn trethi yn ystod 2017-18.
Mae disgwyl i’r cynllun barhau y flwyddyn nesaf, ond dim ond ar gyfer y busnesau lletygarwch mwyaf sy’n werth hyd at £1.5 miliwn.
Ond mae lle i gredu bod y clwb golff yn werth £1.65 miliwn.