Mae prosiect Gaeleg sydd â’r nod o normaleiddio defnydd yr iaith wedi cael ei lansio’n swyddogol gan Taoiseach Iwerddon, Leo Varadkar.
Bydd ‘Bliain na Gaeilge 2018’ yn para am chwe mis, ac yn dechrau ar nos Galan gyda digwyddiadau ym mröydd Gwyddeleg Gaoth Dobhair a Corca Dhuibhne.
Hyd yma mae 50 o grwpiau Gwyddeleg wedi cyfrannu at y gwaith paratoi ac mae Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon hefyd wedi cefnogi’r fenter.
Mae mudiad iaith Conradh na Gaeilge yn dweud bod y prosiect yn “gyfle i ddathlu’n iaith byw ac i’w wneud yn fwy gweladwy o ddydd i ddydd”.
Cyfle i ddathlu
“Mae Bliain na Gaeilge yn cynnig cyfle i ni ddathlu’r iaith Wyddeleg a’r adfywiad Wyddeleg,” meddai Dr Niall Comer, Llywydd Conradh na Gaeilge.
“Mae hefyd yn rhoi cyfle i ni ganolbwyntio ar yr heriau sydd yn wynebu’r iaith a’r Fro Wyddeleg o ran trafodaethau cyhoeddus.”