Mae dirprwy arweinydd Llafur yr Alban, Alex Rowley wedi ymddiswyddo yn dilyn ymchwiliad i honiadau o aflonyddu.

Dywedodd mewn datganiad ei fod e wedi gwneud y penderfyniad i gamu o’r neilltu ar unwaith, a’i fod e wedi rhoi gwybod i’r arweinydd Richard Leonard.

Doedd yr ymchwiliad ddim wedi dyfarnu yn ei erbyn, ac roedden nhw wedi methu cynnal ymchwiliad llawn. Dywedodd Alex Rowley ei fod e “wedi siomi” o ganlyniad i hynny.

Eglurodd fod yr honiadau’n ymwneud â “thor-perthynas bum mlynedd yn ôl”, ac nad oedd yn fodlon i’r cyfan gael ei ddatgelu drwy’r cyfryngau a thrwy hynny, “achosi niwed i’r teulu”.

Fe fydd yn parhau’n Aelod Seneddol tros Ganol yr Alban a Fife, ac mae Lesley Laird wedi’i phenodi’n ddirprwy arweinydd dros dro.

‘Ffyddlon a phrofiadol’

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Richard Leonard fod Alex Rowley yn “aelod ffyddlon a phrofiadol o’r Grŵp Llafur yn Senedd yr Alban” ac y byddai’n “parhau i chwarae rhan wrth ailadeiladu’r Blaid Lafur yn yr Alban”.