Mae Ruth Davidson wedi awgrymu y gallai hi symud o fod yn Aelod Seneddol Albanaidd yn Holyrood i fod yn Aelod Seneddol yn San Steffan.

Fe allai’r drafodaeth gael ei chynnal ar ôl etholiad cyffredinol 2021, ond mae hi’n mynnu mai yn yr Alban, ac nid yn Lloegr, y byddai hi’n sefyll.

Ond fe allai’r cyfan ddibynnu ar ganlyniad etholiad nesa’r Alban, wrth i’r Ceidwadwyr frwydro am rym yn erbyn Nicola Sturgeon a’r SNP.

Fe ddaeth ei sylwadau mewn cyfweliad â chylchgrawn The Spectator.

Ceidwadwyr yr Alban

Mae Ruth Davidson wedi cael ei chanmol am weddnewid y Blaid Geidwadol yn yr Alban, a nhw bellach yw’r ail blaid y tu ôl i’r SNP.

Enillon nhw 31 o seddi yn yr etholiad yn 2015, gan fynd heibio’r Blaid Lafur.

Er i’r Ceidwadwyr golli seddi yn Lloegr yn yr etholiad cyffredinol fis Mehefin y llynedd, cododd nifer seddi Ceidwadwyr yr Alban o un i 13.

Er y llwyddiant, mae Ruth Davidson wedi wfftio’r posibilrwydd o fod yn Gadeirydd y blaid, gan ddweud bod arwain Ceidwadwyr yr Alban yn fwy o swydd.

Wrth drafod yr arweinyddiaeth Brydeinig, dywedodd: “Dw i ddim wedi wfftio hynny. Os yw datganoli am lwyddo, yna mae angen gallu symud rhwng siambrau a seneddau.”