Mae negeseuon diweddar Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump ar wefan gymdeithasol Twitter wedi arwain Ysgrifennydd Addysg San Steffan, Justine Greening i gredu na fyddai ymweliad gwladol â gwledydd Prydain yn “un positif”.

Daw ei sylwadau ar ôl iddo aildrydar sawl neges sy’n cynnwys fideos gwrth-Islamaidd gan ddirprwy arweinydd y grŵp asgell dde, Britain First.

Fe gafodd Donald Trump ei feirniadu’r wythnos ddiwethaf gan Brif Weinidog Prydain, Theresa May ar ôl rhannu’r fideo gyda’i 44 miliwn o ddilynwyr.

Ymweliad

Mae Theresa May yn mynnu nad oes yna ymweliad gwladol ar y gorwel, ond mae’r Sunday Times yn adrodd bod yr Unol Daleithiau’n disgwyl i’r ymweliad gael ei gynnal ar Chwefror 26 a 27, adeg agor llysgenhadaeth newydd yr Unol Daleithiau yn Llundain.

Ond yn ôl Ysgrifennydd Addysg San Steffan, Justine Greening, mae’r negeseuon diweddaraf ar Twitter yn golygu y byddai’r ymweliad yn “broblematig”.

Dywedodd wrth raglen Andrew Marr ar y BBC: “Dw i ddim yn credu bod y trydariadau yn ystod yr wythnos ddiwethaf wedi helpu i wneud unrhyw ymweliad o’r fath yn un arbennig o bositif.

“Dw i’n credu ei fod e’n anghywir i drydar. Wrth gwrs, mae Britain First yn grŵp sydd yn anwaraidd. Dw i ddim yn meddwl eu bod nhw’n haeddu unrhyw gyhoeddusrwydd.”