Gallai cyn-arweinydd Llafur yr Alban, Kezia Dugdale gael ei diarddel o’r blaid yn dilyn ei phenderfyniad i ymddangos yn y gyfres deledu I’m A Celebrity… Get Me Out Of Here!

Dyna neges ei holynydd, Richard Leonard yn dilyn ei fuddugoliaeth yn y ras am yr arweinyddiaeth.

Mae’r gyfres newydd yn dechrau yfory, a bydd y gwleidydd yn ymuno â’r paffiwr Amir Khan, Stanley Johnson (tad Boris) a’r gantores Vanessa White, ymhlith eraill.

Dywedodd Richard Leonard ei fod e “wedi synnu braidd”, ac y byddai’r Blaid Lafur yn penderfynu a ddylid cosbi ei ragflaenydd.

Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd a oedd hi wedi gofyn am ganiatâd cyn teithio i Awstralia.

Cynsail

Yn 2012, cafodd yr Aelod Seneddol Nadine Dorries ei diarddel gan y Ceidwadwyr ar ôl ymddangos yn y gyfres, ond penderfynodd y blaid ei chroesawu hi’n ôl yn ddiweddarach.

Cafodd Kezia Dugdale ei hethol yn arweinydd y blaid yn 2015 ar ôl i Lafur golli 40 allan o 41 o seddi i’r SNP.

 

 

Ymddiswyddodd hi ym mis Awst eleni, ac roedd hi’n ras rhwng Richard Leonard ac Anas Sarwar am yr arweinyddiaeth.

Ymateb

Ymateb digon cymysg gafodd Kezia Dugdale yn sgil y cyhoeddiad am ei hymddangosiad yn y gyfres deledu.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur, Jenny Marra nad yw gwleidyddiaeth “yn llwybr byr i enwogrwydd”, ac fe ddywedodd Aelod Seneddol yr SNP, James Dornan fod yr ymddangosiad yn ymateb “eithafol” i’r newyddion am ei holynydd.

Ychwanegodd Anas Sarwar y byddai’n well ganddo “pe bai hi yn y Senedd yn gweithio er lles ei hetholwyr ac yn gweithio i’r Blaid Lafur”.

Ond gyda’i dafod yn ei foch, ychwanegodd: “Ar ôl iddi wneud y penderfyniad hwnnw, rwy am i ni gael y llinellau ffôn yn boeth er mwyn sicrhau ei bod hi’n bwyta’r holl drychfilod posibl, ei bod hi yn y pwll llygod mawr cymaint â phosib, fel ei bod hi’n mwynhau’r profiad hwnnw ac yn ysu i fwrw ati ar ôl dychwelyd.”