Mae Aelod Seneddol Ceidwadol sydd wedi cael ei wahardd yn dilyn honiadau o aflonyddu rhywiol yn dweud ei fod e “yn y tywyllwch” ynghylch y sefyllfa.
Yn ôl y Blaid Geidwadol, maen nhw wedi trosglwyddo gwybodaeth am “honiadau difrifol” yn erbyn Aelod Seneddol Dover a Deal, Charlie Elphicke i’r heddlu.
Dydy’r Blaid Geidwadol ddim wedi egluro beth yn union yw natur yr honiadau, ac mae Charlie Elphicke wedi gwadu ei fod e wedi gwneud unrhyw beth o’i le.
Yn ôl Charlie Elphicke, cafodd y cyfryngau wybod ei fod e wedi cael ei wahardd cyn iddo yntau gael gwybod.
Gyrfa
Mae Charlie Elphicke yn Aelod Seneddol tros Dover a Deal ers 2010, ac mae e’n aelod o Bwyllgor Dethol y Trysorlys yn San Steffan.
Fe oedd Chwip y Ceidwadwyr yn Llywodraeth David Cameron rhwng 2015 a 2016.
Mae e’n aelod o Weithlu Ymchwil Ewrop, criw o Aelodau Seneddol Ceidwadol sydd o blaid Brexit, ac mae e wedi bod yn galw am reolau llymach ar ffiniau Ewropeaidd.